Chwaraeon

Ras Hwyl Mental Elf Mind in Gwent

1/2

Kingsway, Newport, NP20 1HG

Gwybodaeth Ras Hwyl Mental Elf Mind in Gwent


Mae Mental Elf yn ras hwyl, gyda’r pwyslais ar hwyl! Mae Mental Elf yn ras hwyl 5km sydd wedi'i chynllunio i ddod â'r gymuned ynghyd a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Mae wedi'i chynllunio i bawb allu cymryd rhan, p'un a ydych chi am redeg, cerdded, sgipio, hopian neu olwyno'r cwrs, dewch i ymuno â ni!

Mae ein cwrs yn fflat ar y cyfan, gyda phalmant yr holl ffordd.

Mae'n addas i redwyr profiadol neu unrhyw un sydd am fynd ling-di-long, gan fwynhau golygfeydd hardd o afon Wysg ar hyd y ffordd.

Ymunwch â Mind in Gwent (Mind Casnewydd gynt) ar gyfer ein digwyddiad Mental Elf cyntaf, yn dechrau o Lan yr Afon yng Nghasnewydd ddydd Sul 1 Rhagfyr.

Cofrestru o 10am, gyda’r ras yn dechrau am 11am. Croeso i bawb o bob oedran a gallu.

Bydd pob rhedwr yn derbyn medal a bag rhoddion.

Gwefan https://mentalelf-2024.raiselysite.com/

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Chwaraeon Digwyddiadau

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 28th Rhagfyr 9:00 - 10:00

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 4th Ionawr 9:00 - 10:00