The Riverfront Theatre and Arts Centre, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Sadwrn 1st Chwefror 10:00 - 18:00
Gwybodaeth Blwyddyn Newydd y Lleuad
Paratowch ar gyfer taith i ganol Blwyddyn Newydd y Lleuad. Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 1 Chwefror am ddiwrnod llawn perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau i ddathlu Blwyddyn y Neidr. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda gorymdaith trwy ganol y ddinas. Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol am ddim ac nid oes angen cadw lle.
Dewch draw i Friars Walk am 10am ar gyfer gorymdaith, parêd a Dawns y Llew. O 11am - 5pm, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cynnal gweithdai, arddangosiadau, perfformiadau a llawer mwy.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle. Gallwch fynd a dod fel y mynnwch a mwynhau’r hwyl i’r teulu!
Nid digwyddiad yn unig yw hwn; mae'n ddathliad lle gall pawb ddod at ei gilydd i groesawu'r flwyddyn newydd gyda llawenydd ac undod. Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol arbennig!
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Theatr Glan yr Afon a Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd. Bu hyn yn bosibl gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Dinas Casnewydd.
Gwefan https://www.newportlive.co.uk/en/theatre-arts/festivals-events/lunar-new-year/