Dolman Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HY
Gwybodaeth "Let the Light Pour In" - Lemn Sissay
Rhowch "Lemn Sissay" i mewn i beiriant chwilio Google a bydd yr holl ganlyniadau yn ymwneud ag ef. Dim ond un person yn y byd sydd â’r enw Lemn Sissay
Prif berfformiwr Gŵyl Geiriau Casnewydd
Treuliwch amser gyda meistr y gair llafar, saith mlynedd yn ganghellor, bardd swyddogol Gemau Olympaidd Llundain, Cymrawd Anrhydeddus colegau Rhydychen a Chaergrawnt, enillydd medal Gŵyl y Gelli 2024 am farddoniaeth, a theirgwaith yn rhestr goreuon y Sunday Times.
Mae Lemn Sissay OBE yn fardd, dramodydd, cofiannydd a darlledwr. Mae wedi perfformio ledled y byd o Lyfrgell y Gyngres yn yr Unol Daleithiau i Theatr Genedlaethol Ethiopia yn Addis Ababa i’r London Palladium yn Lloegr. Mae ei raglenni dogfen teledu wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau Grierson BAFTA ac RTS. Mae ei waith radio wedi'i enwebu ar gyfer Sony a Palm D'Ors.
Am y degawd diwethaf, mae Lemn Sissay wedi cyfansoddi cerdd fer wrth i'r wawr dorri bob bore. Mae’r cerddi hyn yn gadarnhad o fywyd, yn ffraeth ac yn llawn rhyfeddod, ac yn gofnod o’i frwydr ei hun â'r tywyllwch wedi eu tanio gan wytnwch a llawenydd herfeiddiol. Mae Let the Light Pour In yn gasgliad o'r goreuon o'r cerddi hynny, ac yn llyfr sy'n dathlu’r arfer boreol hwn.
Bydd y drysau’n agor am 6:30pm i ddechrau am 7.00pm. Nicole Garnon, cadeirydd Gŵyl Geiriau Casnewydd fydd yn cyflwyno'r gair o groeso. Bydd hanner cyntaf y sioe yn para 40 munud, ac yna bydd egwyl o 20 munud cyn 40 munud arall a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb.
Gwybodaeth Ychwanegol - Mae Refugee Boy gan Benjamin Zephaniah (addasiad gan Lemn Sissay) yn destun allweddol ar feysydd llafur TGAU Drama a Llenyddiaeth Saesneg CBAC.
Llun: hawlfraint Ivan Weiss
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau
The Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Sul 22nd Mawrth 12:00 - 13:00
Sgyrsiau
The Riverfront Theatre , Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Sul 22nd Mawrth 15:00 - 16:00