Sgyrsiau

Llogi Tywysydd RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd

West Nash Road, Newport, NP18 2BZ

Dydd Mawrth 1st Ebrill 10:00 - Dydd Mercher 31st Rhagfyr 15:00

Gwybodaeth Llogi Tywysydd RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd


Llogwch Dywysydd ar gyfer taith unigryw o amgylch Gwlyptiroedd Casnewydd, wedi'i deilwra i'ch diddordebau!

Mae ein gwasanaeth pwrpasol yn cynnig cyfle i hyd at 5 o westeion grwydro'r warchodfa natur gyda thywysydd gwybodus am 1 a 1/2 awr. Gallwn deilwra'r daith i'ch diddordebau, fel y gallwch brofi'r warchodfa’n hamddenol braf. Perffaith ar gyfer teuluoedd, grwpiau bach, defnyddwyr cadair olwyn/pobl â symudedd cyfyngedig (gallwch logi sgwter symudedd hefyd) ac unrhyw un sydd eisiau cipolwg ar fywyd gwyllt unigryw a hanes Gwlyptiroedd Casnewydd.

Gallwn gynnig teithiau cerdded ar y themâu canlynol, ond os oes gennych syniad, gofynnwch:

Teithiau cerdded natur cyffredinol, ar gyfer pob oedran a diddordeb, gan roi cip ar rywogaethau, cynefinoedd a rheoli cadwraeth.

Teithiau cerdded adar, yn amrywio o ddechreuwyr i lefel uwch.

Teithiau cerdded hanesyddol gan gynnwys golwg ar y fflatiau llaid o'r pentrefi canoloesol ar Wastadeddau Gwent.

Teithiau cerdded ffotograffiaeth.

Unrhyw ddiddordeb penodol mewn gloÿnnod byw, gweision y neidr, cacwn a fflora yn ystod misoedd yr haf. Adar dŵr a drudwy yn y Gaeaf.

Mae tocynnau Llogi Tywysydd yn ddilys am 1 flwyddyn o'r dyddiad prynu a rhaid cwblhau'r daith gerdded o fewn y cyfnod hwnnw. I brynu eich profiad Llogi Tywysydd, anfonwch e-bost at Newport-Wetlands@rspb.org.uk o leiaf bythefnos cyn dyddiad yr ymweliad y gofynnwyd amdano.

Gwefan https://events.rspb.org.uk/events/107089

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Iau 15th Mai 19:30 - 21:30

The West Usk Lighthouse, Lighthouse Road , St Brides Wentloog , Newport Gwent, NP10 8SF

Dydd Sadwrn 14th Mehefin 9:00 - 18:00