
RSPB Visitor Centre, West Nash Road, Newport, Newport, NP18 2BZ
Gwybodaeth Llogi Tywysydd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
Ymunwch â'n tywyswyr brwdfrydig a gwybodus am awr a hanner gan gerdded o amgylch gwarchodfa natur genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, yn archwilio'r cynefinoedd pwysig a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sy'n byw yma. Mae'r teithiau hyn wedi'u teilwra i'ch diddordebau chi. P'un ag ydych eisiau gwella eich sgiliau adnabod adar, dysgu am hanes eithriadol y safle hwn, gwella eich gwybodaeth am alwad adar neu os hoffech gael ffotograffydd gwych i’ch helpu gyda'ch sgiliau ffotograffiaeth - mae gennym dywysydd i chi.
Os oes gennych ddiddordeb penodol, e-bostiwch Newport-wetlands@RSPB.org.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i deilwra'r digwyddiad ar eich cyfer chi.
Os nad yw ein hamseroedd yn gweddu'n llwyr i'ch cynlluniau, anfonwch e-bost atom a byddwn yn fwy na pharod i drefnu taith gerdded ar adeg wahanol yn ystod y dydd.
Mae'r teithiau cerdded hyn yn berffaith i deulu neu grŵp o 4 - 5 o bobl sydd eisiau dysgu wrth fwynhau cerdded.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cymunedol Digwyddiadau
Cymunedol
, Beechwood House, Christchurch Road, Newport, NP19 8AJ
Dydd Sul 13th Gorffennaf 14:00 - 17:00
The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Mawrth 15th Gorffennaf 18:00 - 20:00