Market Arcade , High Street, Newport, Newport, Gwent, NP20 1FS
Gwybodaeth Gweithdai Gwehydda Helyg Hanner Tymor gyda Sarah Hatton - dydd Iau, 30 Mai 2024, 10.30am
Ymunwch â Sarah Hatton yn Arcêd y Farchnad, ar gyfer gweithdy gwehydda helyg i'r teulu a darganfod basgedi enfawr ein Pont Gludo Casnewydd!
Yn Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, un o'r arddangosfeydd mwy anarferol yw un o'r basgedi mawr a ddefnyddiwyd gan weithwyr, flynyddoedd lawer yn ôl, i osod, paentio a chynnal crograffau Pont Gludo Casnewydd ac i ddringo ein tyrau 74 metr!
Mae’r gwehydd helyg Sarah Hatton, sy’n wyneb cyfarwydd o'r rhaglen deledu, 'The Repair Shop', wedi cael y dasg o efelychu nodweddion eiconig ac anarferol y bont i'w rhoi ar waith yn ein gardd East Anchorage yn y pen draw. Ymunwch â hi a thîm Prosiect Pont Gludo Casnewydd yn Arcêd y Farchnad hanesyddol, am sesiwn awr o hyd o wehydda helyg i'r teulu, gan wneud eich basged fach eich hun a darganfod mwy am 'Fasgedi Enfawr' anhygoel y Bont yr hanner tymor mis Mai hwn!
SYLWER: MAE ARCHEBION FESUL PLENTYN - ond mae'n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer y gweithgaredd ymarferol hwn.
Er bod hwn yn ddigwyddiad am ddim, mae costau ac amser yn berthnasol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu bod yn bresennol pan fyddwch yn archebu.
Mwy Teulu Digwyddiadau
Teulu
Celtic Manor Resort, The Coldra, Newport, NP18 1HQ
Dydd Sadwrn 5th Ebrill -
Dydd Sul 27th Ebrill
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Llun 7th Ebrill 10:30 -
Dydd Gwener 25th Ebrill 14:30