
Kingsway, Newport, Newport, NP20 1HG
Gwybodaeth Gŵyl Newydd
Ddydd Sadwrn 28 Medi, 2024, bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Theatr Glan yr Afon yng nghanol y ddinas ar gyfer gwledd gyffrous arall i'r synhwyrau.
O berfformiadau byw gan artistiaid ifanc lleol talentog i weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol, mae Gŵyl Newydd yn cynnig rhywbeth i bawb.
Darganfyddwch harddwch yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru drwy gerddoriaeth, celf, sgyrsiau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu iaith.
Gan ddechrau am 11am, bydd gan y digwyddiad chwe ardal wahanol, pob un â ffocws gwahanol trwy gydol y dydd: o berfformiadau gan ysgolion lleol i ddiddanwyr pobl ifanc, gweithgareddau teuluol a sgyrsiau addysgiadol gan siaradwyr gwadd.
Eleni, am yr eildro yn hanes yr ŵyl, mae pob ysgol yn y ddinas wedi cael gwahoddiad i berfformio yn y digwyddiad. Bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg o bob rhan o Gasnewydd ac ardaloedd cyfagos yn perfformio yn y Gymraeg ar y prif lwyfan er mwyn arddangos eu doniau a'u sgiliau Cymraeg.
Gwefan https://www.gwylnewydd.cymru/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Immersed! Digwyddiadau
Immersed!
Chepstow Visitors Centre, Bridge Street , Chepstow , NP165EY
Dydd Mawrth 22nd Ebrill 9:00 - 17:00