
National Trust Tredegar House & Gardens, Coedkernew, Newport, NP10 8YW
Dydd Iau 10th Gorffennaf 18:30 - Dydd Sadwrn 12th Gorffennaf 18:30
Gwybodaeth PERFFORMIADAU GISELLE YN YR AWYR AGORED
BALLET CYMRU, MEWN PARTNERIAETH Â'R YMDDIRIEDOLAETH GENEDLAETHOL, YN CYFLWYNO:
GISELLE
perfformiadau awyr agored
Mae’r cwmni arobryn ac arloesol Ballet Cymru yn cyflwyno taith fythgofiadwy llawn angerdd, brad, a maddeuant.
Mae dehongliad newydd sbon o'r bale hwn sy’n llawn ysbrydion yn adrodd stori drasig a rhamantus merch ifanc o Gymru o'r enw Giselle, sy'n syrthio mewn cariad ond yn marw o dorcalon. Yn cynnwys sgôr glasurol wreiddiol a thrawiadol Adolphe Adam, coreograffi arloesol gan Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd anhygoel a gwych.
Peidiwch â cholli'r cwmni eithriadol ac arloesol hwn sy'n cynnwys ensemble arbennig ac amrywiol o ddawnswyr gwych.
Tŷ a Gerddi Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
10, 11, 12 Gorffennaf 2025, 6.30pm
I archebu tocynnau, ewch i: newportlive.ticketsolve.com
Ffôn: 01633 656757
Derbynnir archebion hefyd wrth gyrraedd ar ddiwrnod y perfformiad.
Dewch â’r teulu a’ch ffrindiau, a mwynhewch bicnic ar y lawnt!
Hysbysiad Hygyrchedd
Mae Disgrifiad Sain wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gyfer y perfformiad hwn. Cysylltwch â’r lleoliad i gael rhagor o fanylion.
Ballet Cymru yw cwmni ballet teithiol rhyngwladol Cymru, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod dawns a ballet clasurol yn arloesol ac yn hygyrch i bawb, ac yn cydweithio cymaint â phosib.
Gwefan https://newportlive.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173661872
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 14th Mehefin 9:30 -
Dydd Sadwrn 13th Medi 16:00
Y Celfyddydau
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 21st Mehefin 9:30 -
Dydd Sadwrn 13th Medi 16:00