Corn Exchange, Exchange House, The Old Post Office, High Street, Newport, NP20 1AA
Dydd Gwener 31st Ionawr 19:00 - 23:00
Gwybodaeth Fleetwood Bac
Fleetwood Bac
Dros y blynyddoedd lawer y mae Fleetwood Bac wedi bod gyda'i gilydd, mae'r band wedi derbyn adolygiadau gwych gan bapur newydd 'The Stage', prif wefan ffans Fleetwood Mac y DU, gwefan swyddogol Stevie Nicks; ac o gynulleidfaoedd ecstatig lle bynnag y byddai'r band yn chwarae, gan syfrdanu cynulleidfaoedd mor bell i ffwrdd â Dubai, St Tropez, Ynysoedd Cayman a Monte Carlo, ac yn gwerthu pob tocyn ddwywaith yn Theatr Minack fyd-enwog yng Nghernyw.
Hefyd, mae papur newydd The Times yn ystyried Fleetwood Bac ymhlith 5 band teyrnged gorau'r DU, ochr yn ochr â The Bootleg Beatles, Bjorn Again a'r Counterfeit Stones. Mae ei ffans yn cynnwys chwaraewr bas Mac gwreiddiol a’r bywgraffydd Bob Brunning, a ymunodd â'r band sawl gwaith ar y llwyfan, a Martin Celmins, bywgraffydd swyddogol Peter Green.
Caiff y sain, yr wedd, yr awyrgylch a’r bond ar y llwyfan oll eu portreadu gydag angerdd ac egni. Mae’r band wedi magu enw da ymhlith ffans Mac drwy amryw deithiau, ymddangosiadau mewn gwyliau, digwyddiadau corfforaethol a slotiau teledu a radio dros y DU ac Ewrop.
Mae sioe Fleetwood Bac yn canolbwyntio ar gyfnod ‘Rumours’ y band (o hyd y 5ed albwm mwyaf llwyddiannus erioed). Mae hefyd yn cynnwys nifer o ganeuon o gyfnod Peter Green, yn ogystal â rhai o ganeuon unigol mwyaf poblogaidd Stevie, naill ai mewn sioe theatrig 2 awr, gan gynnwys newidiadau gwisgoedd ac adran acwstig, neu sioe Caneuon Mwyaf Poblogaidd un awr, wedi'i theilwra'n arbennig ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 4th Rhagfyr 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Le Pub, 14 High Street, Newport , Newport, South Wales , NP20 1FW
Dydd Iau 16th Ionawr 19:30 - 22:30