Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Mawrth 3rd Rhagfyr 9:30 - Dydd Sadwrn 11th Ionawr 16:00
Gwybodaeth Arddangosfa: Walls Come Tumbling Down gan Dean Lewis
Cyfres o ddarluniau pen a dyfrlliw o’r broses o ddymchwel Canolfan Casnewydd, gan Dean Lewis.
Ym mis Ebrill 2023, dechreuwyd y gwaith o ddymchwel Canolfan Casnewydd. Penderfynodd yr artist o Gasnewydd, Dean Lewis, ddogfennu’r broses, yn rhannol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ond hefyd am ei fod yn cael ei ddenu at rwbel, dadfeiliad a dinistr!
I’w weld yn aml yn eistedd wrth gât neu'n edrych i lawr o faes parcio Ffordd y Brenin, daeth wyneb Dean yn adnabyddus i'r contractwyr oedd yn gweithio ar y safle. Cyn bo hir, adeiladodd Dean berthynas gyda'r gweithwyr. Yn annisgwyl, trodd y prosiect o ddarlunio concrit, metel a pheiriannau thrwm i edrych ar y gweithwyr, gan ganolbwyntio ar eu cynhesrwydd, eu hiwmor a'u cyfeillgarwch.
Mae Walls Come Tumbling Down yn arddangosfa am y dynion di-sylw hyn, a'u gwaith yn datgymalu Canolfan Casnewydd.
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 7th Rhagfyr 9:30 -
Dydd Sadwrn 18th Ionawr 16:00
Y Celfyddydau
Our Chartist Heritage, 170 Commercial Street, Newport, NP20 1JN
Dydd Sadwrn 21st Rhagfyr 10:00 - 12:00