Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 1st Tachwedd 9:30 - Dydd Sadwrn 10th Ionawr 9:30
Gwybodaeth Arddangosfa: Y Rookery
							
Mae'r gorffennol yn dal i bwyso'n drwm ar dde Cymru, rhan o'r wlad lle mae ei threftadaeth ddiwydiannol yn dylanwadu’n fawr ar ei hunaniaeth gyfoes. Yn yr un modd â hen ardaloedd diwydiannol trwm eraill, mae cydadwaith cymhleth rhwng arddangos llafur caled y gorffennol, fel yn ei hamgueddfeydd, ei safleoedd treftadaeth a’i henebion, a'r economeg ddideimlad a greodd y diwydiant hwnnw, ac yna ei gymryd i ffwrdd.
Yng ngoleuni hyn, mae John Crerar yn cyflwyno ei brosiect ffotograffig o'r enw "The Rookery” sy’n archwilio safle hen res o dai glowyr wedi'u hamgylchynu gan domen sborion ger Rhisga sydd bellach wedi'i hadfer gan natur. Gan gyfuno ei ffotograffau ei hun gyda ffotograffau’r bonheddwr Fictoraidd John Dillwyn Llewelyn, a thrwy ddefnyddio deunydd archif a gwrthrychau hapgael, mae John yn ceisio cyflwyno naratif o newid cymdeithasol ac economaidd ac adnewyddu amgylcheddol sydd wedi adleisio ar draws y rhanbarth dros y ddau gan mlynedd diwethaf. 
						
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Tredegar House, Pencarn Way, Newport, NP10 8YW
Dydd Llun 27th Hydref 11:00 - 
Dydd Gwener 31st Hydref 13:00												
Y Celfyddydau
, 9 Chartist Tower, Upper Dock Street, Newport, NP20 1DX
Dydd Sadwrn 1st Tachwedd 10:30 - 13:00
 
                             
                            