Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 25th Ionawr 9:30 - Dydd Sadwrn 31st Mai 16:00
Gwybodaeth Arddangosfa: BANESWELL - Made you look!
Yn aml mae llygaid ffres mewnfudwr yn sylwi ar agweddau ar hanes a thirwedd tref nad yw ei thrigolion hirsefydlog wedi sylwi arnynt, a gellir dweud yr un peth am yr ardaloedd lleol y mae pobl yn byw ynddynt. Gall oes gyfan fynd heibio heb iddynt ofyn sut y cafodd eu stryd ei henw, pam mae golwg wahanol ar y tŷ hwnnw ar y gornel, beth sy'n esbonio'r bwlch rhwng y ddau adeilad hynny, a pham mae talp o garreg wrth ymyl y polyn lamp hwnnw.
Mae'r arddangosfa hon wedi turio i hanes Baneswell, gan chwilio am ysbrydion a delweddau o'r gorffennol: ond mae hefyd wedi symud ymlaen a chofnodi'r hyn y gellir ei weld a'i ddarganfod heddiw, ar y strydoedd eu hunain a thrwy dynnu lluniau'r bobl sy'n byw yno. Mae atgofion wedi’u rhannu a ffotograffau teuluol wedi’u hailddarganfod mewn blychau llawn llwch. Wrth i ni baratoi am yr arddangosfa, ymddangosodd graffiti newydd ar wal Gwesty Queen’s: 'Made you look' oedd y neges, a gobeithiwn gyda'r arddangosfa hon y byddwn yn gwneud hynny.
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Mawrth 3rd Rhagfyr 9:30 -
Dydd Sadwrn 11th Ionawr 16:00
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 7th Rhagfyr 9:30 -
Dydd Sadwrn 18th Ionawr 16:00