The SHARE Centre, 88 Stow Hill, Newport, NP20 4DW
Dydd Mercher 20th Mai 12:00 - 16:00
Gwybodaeth Digwyddiad Cymorth Cyflogaeth
Yn Growing Space, rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i oresgyn rhwystrau a thyfu i gyflogaeth gynaliadwy. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn ymuno ag Urban Circle i gynnal Digwyddiad Cymorth Cyflogaeth pwrpasol y mis hwn.
Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallech rannu manylion y digwyddiad hwn gyda defnyddwyr eich gwasanaeth a'ch rhwydwaith ehangach. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi unigolion a allai fod yn "economaidd anweithgar," yn ddi-waith yn hirdymor, neu'n byw gydag anableddau / heriau iechyd meddwl.
Manylion y Digwyddiad:
• Dyddiad: Dydd Mercher 20 Mai 2026
• Amser: 12:00 PM – 2:00 PM
• Lleoliad: Canolfan SHARE, 88 Stow Hill Casnewydd, NP20 4DW
• Mynediad: Croeso i bawb – nid oes angen apwyntiad.
Sut y gallwn ni helpu ar y diwrnod:
• Cyngor ar lunio CV a chymorth wrth chwilio am swydd: Cymorth ymarferol i symud ceisiadau yn eu blaen.
• Hyfforddant a chyfleoedd: Gwybodaeth am ein rhaglenni hyfforddi achrededig.
• Magu hyder: Cefnogaeth i bobl sy'n teimlo'n nerfus ynglŷn â dychwelyd i'r gwaith.
• Cymorth un i un: Cyfle i gwrdd â’r tîm ac archwilio’r cymorth sydd ar gael.