Am ddim

Mwy Na Dreigiau a Daffs

Theatr Glan yr Afon, Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG

Dydd Sadwrn 1st Mawrth 11:00 - 17:00

Gwybodaeth Mwy Na Dreigiau a Daffs

Bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau eiconig Glan yr Afon Casnewydd yn cynnal digwyddiad cymunedol arbennig i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd ‘Mwy na dreigiau a daffs’ yn ddathliad o Gymru, diwylliant Cymreig, a bod yn Gymro/Cymraes yng Nghasnewydd, a dangos bod Cymru yn fwy na dim ond daffs a dreigiau.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim, rhwng 11yb a 5yp ddydd Sadwrn 1 Mawrth yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau a gweithdai cerddorol, gan gynnwys:

• Perfformiadau cerddorol gan Ify Iwobi, Operasonic a Band Pres Bwrdeistref Casnewydd
• Gweithdai crefft i'r teulu gan Nathan Sheen a Lucilla Jones
• Gweithdy cerddorol gan Cerdd Gwent
• Perfformiadau gan Kitsch n Sync Collective

Bydd Race Council Cymru hefyd yn y digwyddiad, gan lansio’r thema ar gyfer Hanes Pobl Dduon Cymru 365 eleni, sef ‘Hanes Duon yw Hanes Cymru’.

Bydd digon o stondinau hefyd yn gwneud a gwerthu nwyddau ar thema Cymru, ac ymddangosiad arbennig gan y chwedlonol Mistar Urdd.

Fel rhan o'r digwyddiad eleni, mae disgyblion ysgolion Casnewydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn tair cystadleuaeth greadigol yn ymwneud â’r thema 'bod yn Gymro/Cymraes yng Nghasnewydd'.

Categoriau'r gystadleuaeth yw barddoniaeth, ysgrifennu creadigol, a chelf, a bydd y ceisiadau gorau o bob categori yn cael eu harddangos yn y digwyddiad.

Mwy Am ddim Digwyddiadau

The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL

Dydd Sadwrn 8th Chwefror 14:00 -
Dydd Sadwrn 22nd Chwefror 15:30

The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL

Dydd Sadwrn 15th Chwefror 14:00 -
Dydd Sadwrn 1st Mawrth 15:30