Y Celfyddydau

Diwrnod Darlunio gyda Golau

1/3

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Mawrth 28th Hydref 10:00 - 16:00

Gwybodaeth Diwrnod Darlunio gyda Golau



Ydych chi'n chwilio am weithgareddau cyffrous yn ystod hanner tymor? Beth am ymweld â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd am brofiad ‘Darlunio gyda Golau’ unigryw. Cyfle i ddefnyddio'r rhaglen realiti rhithwir Tilt Brush neu i ymuno â'r artist lleol Andy O'Rourke i arbrofi gyda thechnegau paentio gyda golau a rhyddhau eich creadigrwydd mewn 3D.

Galwch heibio, does dim angen cadw lle. Darllenwch y manylion isod.

Cymhwysiad paentio realiti rhithwir 3 dimensiwn yw Tilt Brush, a byddwch yn gwisgo penset VR. Bydd dau fwth realiti rhithwir wedi’u hwyluso ar gael rhwng 10am a 4pm ar y diwrnod. Argymhellir Tilt Brush ar gyfer oedrannau 10+ a bydd technegydd profiadol yn eich tywys ar hyd y ffordd. Mae'r gweithgaredd hwn yn cael ei hwyluso gan Bryght Ltd. Bydd terfyn amser o 10-15 munud yn cael ei gyflwyno os bydd y galw’n uchel.

Neu ymunwch ag Andy O'Rourke i baentio â golau rhwng 11am a 3pm. Beth yw paentio â golau? Mae'n dechneg ffotograffig chwareus, ymdrochol a hynod ddiddorol sy'n uno celf, technoleg a hwyl a sbri. Darluniwch yn yr awyr gan ddefnyddio offer golau unigryw, a gall ffotograffwyr medrus dynnu lluniau o lwybrau golau disglair mewn amser real, gan greu celf ddigidol syfrdanol a phersonol. Byddwch yn ymwybodol y bydd goleuadau fflachiol a strôb, na fydd yn addas i bawb.

Mae'r diwrnod yn cael ei ariannu drwy grant Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gwefan https://www.newport.gov.uk/heritage/en/Museum-Art-Gallery/Museum-Art-Gallery.aspx

Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Sadwrn 11th Hydref 9:30 -
Dydd Sadwrn 10th Ionawr 9:30

Ymlacio gyda Chelf

Y Celfyddydau

The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL

Dydd Sadwrn 25th Hydref 11:30 - 13:00