West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sul 4th Mai 5:00 - 7:30
Gwybodaeth Côr y bore bach yng Ngwlyptiroedd Casnewydd RSPB
Wrth i'r haul godi, beth am ymuno â ni am brofiad bywyd gwyllt arbennig iawn i glywed côr hudolus y bore bach yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Bydd y sioe sain hon yn cynnwys nid yn unig yr adar gardd mwy cyfarwydd ond hefyd rhai o'n rhywogaethau serennog. Gwrandewch am aderyn y bwn yn atseinio neu’r gog yn canu a chlywed beth yw’r gwahaniaeth rhwng telor y gors a bras y gors... mae wir yn werth codi'n gynnar.
Mae hwn yn gyfle i ymweld â'r warchodfa cyn i unrhyw un arall gyrraedd ac amsugno sŵn cân adar y gwanwyn. Bydd ein tywyswyr wrth law i helpu i weld bywyd gwyllt ar hyd y daith gerdded unigryw hon. Pa ffordd well o ddathlu diwrnod rhyngwladol côr y bore bach.
Byddwn yn cwrdd am 5.00am i wneud yn siŵr nad ydym yn colli dim. Dylai'r daith gerdded gymryd tua 2 awr a bydd toiledau ar gael cyn ac ar ôl y daith. Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau addas. Mae'n werth dod â sbienddrych os oes gennych un.
Gwefan https://www.rspb.org.uk/days-out/reserves/newport-wetlands
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Mawrth 1st Ebrill 10:00 -
Dydd Mercher 31st Rhagfyr 15:00
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sadwrn 19th Ebrill 9:30 - 12:00