
Newport Museum and Art Gallery, Newport, NP20 1PA
Gwybodaeth David Hurn yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Mae gan David Hurn enw da ers tro fel un o’r ffotograffwyr croniclo mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Mae wedi cofnodi popeth o Chwyldro Hwngari i Drychineb Aberfan a'r Beatles ar anterth Beatlemania. Sefydlodd David hefyd yr Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol enwog yng Nghasnewydd.
Yn 1983, cyfarfu ag un o'i arwyr o’r byd ffotograffiaeth, André Kertész, ac awgrymodd yn gellweirus, pan fyddai’n cyrraedd oed Kertész yn 89, y byddai'n ail-wneud ei gyfrol arloesol, On Reading. Yn driw i'w air, mae David, sy’n aelod o’r gydweithfa ffotograffiaeth Magnum, wedi gwneud hynny. Lle bynnag teithiodd Hurn fel ffotonewyddiadurwr, tynnodd luniau o bobl yn darllen llyfrau, cylchgronau a ffonau symudol.
Ymunwch â'r ffotonewyddiadurwr a'r ffrind Glenn Edwards mewn sgwrs â David Hurn yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ddydd Sadwrn 22 Mawrth am 1pm.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl y Geiriau Casnewydd a gynhelir 20-23 Mawrth. Dathliad o eiriau; o gyfansoddi caneuon i adrodd straeon, o farddoniaeth i ryddiaith, ac yn cynnwys awduron a pherfformwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Mawrth 1st Ebrill 10:00 -
Dydd Mercher 31st Rhagfyr 15:00
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sul 4th Mai 5:00 - 7:30