Y Celfyddydau

Clogfaen Pren

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd, NP20 1PA

Dydd Sadwrn 21st Mehefin 9:30 - Dydd Sadwrn 13th Medi 16:00

Gwybodaeth Clogfaen Pren

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn falch iawn o gyflwyno Clogfaen Pren, ffilm gan David Nash o 21 Mehefin hyd 13 Medi 2025.

Siâp sfferig wedi'i dorri o goeden wedi cwympo yw’r Clogfaen Pren. Wedi'i gerfio lle syrthiodd y goeden yn Nyffryn Ffestiniog ym 1978, roedd David Nash yn bwriadu cludo'r cerflun i'w stiwdio i ddechrau, ond roedd yn rhy drwm a pheryglus i'w symud. Yn lle hynny, roliodd Nash ef i nant gerllaw gan obeithio y byddai'n cael ei ysgubo i lawr y dyffryn. Aeth yn sownd a throdd y siom gychwynnol yn gyfle diddorol yn fuan wrth i'r dŵr ddechrau tywyllu'r pren, gan droi'r cerflun yn beth oedd yn edrych fel clogfaen.

Dychwelodd Nash yn aml i gofnodi'r clogfaen gan ddefnyddio ffilm, ffotograffiaeth, cerflunio, a darlunio nes i ddŵr storm ei wthio ymlaen. Dilynodd daith y clogfaen a'i ymgysylltiad â'r tywydd a'r tymhorau am ddegawdau.

Mae'r gwaith ar fenthyg am dymor hir i Amgueddfa Cymru gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ac fe'i dangosir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd fel rhan o CELF: Oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru

Ffotograff: David Nash, Y Clogfaen Pren yn Afon Dwyryd, Rhagfyr 2014 / Wooden Boulder in RIver Dwyryd, December 2013, delwedd / image ⓒ David Nash

Gwefan https://www.newport.gov.uk/heritage/cy/Homepage.aspx

Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Sadwrn 14th Mehefin 9:30 -
Dydd Sadwrn 13th Medi 16:00

Newport Transporter Bridge, Stephenson Street, Newport, Newport, NP19 0RB

Dydd Mawrth 24th Mehefin 19:00 - 22:00