Coldra Court Hotel , Chepstow Road, Langstone, Newport, NP18 2LX
Gwybodaeth Clwb Busnes Dinas Casnewydd - Digwyddiad Siaradwr - Gavin Thompson, Golygydd y South Wales Argus
Golygydd y South Wales Argus, Gavin Thompson, fydd y siaradwr gwadd yn nigwyddiad rhwydweithio diweddaraf Clwb Busnes Dinas Casnewydd.
Gavin, sy'n golygu papur newydd dyddiol Casnewydd ar-lein ac mewn print ochr yn ochr â chyfres o sefydliadau newyddion lleol eraill gan gynnwys y Penarth Times a chylchgrawn Voice yn ei rôl fel Golygydd Rhanbarthol i'r cyhoeddwr Newsquest, fydd y siaradwr yn y digwyddiad yng Ngwesty Coldra Court ddydd Iau, 29 Chwefror.
Mae'r Argus wedi ei gynhyrchu yng Nghasnewydd ers 1892 ac mae Gavin, a benodwyd ym mis Mai 2020, yn un o ddim ond 10 o bobl i olygu'r cyhoeddiad mewn 132 mlynedd. Mae'r chwyldro digidol wedi trawsnewid y ffordd y mae newyddion yn cael ei ddarparu, ac mae Gavin wedi bod ar flaen y gad o ran newidiadau diweddar i'r Argus - yn fwyaf nodedig drwy gyflwyno model sy'n seiliedig ar danysgrifiadau ar gyfer ei wasanaeth ar-lein.
Mae Gavin wedi gweithio i bapurau newydd rhanbarthol ers dechrau fel gohebydd dan hyfforddiant yn Taunton yn 1999, ac mae ei yrfa wedi ei dywys o gwmpas y DU i lefydd fel Hull, Aberdeen a Bryste, gan gynnwys cyfnodau yn arbenigo fel golygydd busnes, cyn dod yn olygydd y Western Daily Press yn gyntaf ac yna'r Bath Chronicle.
Ymunodd â Newsquest a chymryd awenau'r Argus ym mis Mai 2020, yn nyddiau cynnar y pandemig Covid.
Mae digwyddiad Clwb Busnes Dinas Casnewydd yn dechrau am 5.30pm. Pris y tocynnau ar gyfer y digwyddiad, sy'n cynnwys pryd dau gwrs, yw £25 a gellir eu harchebu drwy'r ddolen ganlynol – http://www.newportbusinessclub.co.uk/tickets/
Mwy Busnes Digwyddiadau
Prifysgol De Cymru., Usk Way, Casnewydd, NP20 2BP
Dydd Iau 16th Ionawr 9:30 -
Dydd Iau 27th Mawrth 15:00
Prifysgol De Cymru., Usk Way, Casnewydd, NP20 2BP
Dydd Iau 23rd Ionawr 9:30 -
Dydd Iau 3rd Ebrill 15:00