Busnes

Clwb Busnes Dinas Casnewydd

Mercure Hotel, Chartist Tower, Upper Dock Street, Newport, NP20 1DW

Dydd Iau 14th Tachwedd 17:30 - 20:00

Gwybodaeth Clwb Busnes Dinas Casnewydd


Bydd Richie Turner (Rheolwr Stiwdio Incubator newydd) a Dr Nick Lambert (Ymgynghorydd Entrepreneuriaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn cyflwyno canfyddiadau dau ddarn o ymchwil a gynhaliwyd ganddynt ddiwedd 2023 ynghylch yr economi greadigol yng Nghasnewydd.

Yn gyntaf, byddant yn cyflwyno'r canlyniadau o'u cynllun peilot Canolfan Clwstwr y Diwydiannau Creadigol a gynhelir ar ran Cyngor Dinas Casnewydd wedi’i ariannu mewn partneriaeth â Chaerdydd Greadigol.

Yn ail, byddant yn rhannu canlyniadau ymgynghoriad sgiliau creadigol penodol – wedi'i ariannu drwy Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru - a ddaeth â darparwyr AU, AB a sgiliau eraill ynghyd i nodi bylchau yn y ddarpariaeth sydd ei hangen i dyfu sector creadigol Casnewydd.

Mae Richie Turner wedi gweithio yn y sector celfyddydau, diwydiannau creadigol ac addysg uwch yng Nghymru ers dros 40 mlynedd ac mae wedi sefydlu sawl busnes creadigol. Mae hefyd wedi gweithio mewn sawl swydd gyhoeddus yn y diwydiannau celfyddydol a chreadigol i Lywodraeth Cymru ac ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Nesta (UK Innovation Foundation) yng Nghymru.

Mae Dr Nick Lambert wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad yn diwydiannau creadigol, gan gynnwys cynnal Canolfan VASARI yn Birkbeck, Prifysgol Llundain, ac fel Pennaeth Ymchwil ym Mhrifysgol Ravensbourne. Mae wedi cyflawni prosiectau AHRC, CGE a chronfa Adnewyddu Cymunedol, gan gynnwys Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol gyda Handheld Events a PDC.

Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i rwydweithio gydag unigolion o'r un anian ac ennill gwybodaeth werthfawr. Manteisiwch ar y cyfle cyffrous hwn, fydd yn dechrau am 5.30pm ddydd Iau 14 Tachwedd yng Ngwesty'r Mercure yng Nghasnewydd.

Pris y tocynnau ar gyfer y digwyddiad, sy'n cynnwys pryd dau gwrs, yw £25 a gellir eu harchebu drwy'r ddolen ganlynol – http://www.newportbusinessclub.co.uk/tickets/

Gwefan https://www.newportbusinessclub.co.uk/the-creative-economy-in-newport/

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Busnes Digwyddiadau

Prifysgol de cymru, Usk Way, Casnewydd , NP20 2BP

Dydd Iau 19th Medi 9:30 -
Dydd Iau 28th Tachwedd 15:00

Prifysgol de cymru, Usk Way, Casnewydd , NP20 2BP

Dydd Iau 26th Medi 9:30 -
Dydd Iau 5th Rhagfyr 15:00