Am ddim

Her Natur y Ddinas - Caerdydd a Chasnewydd

1/2

Dydd Gwener 25th Ebrill - Dydd Llun 28th Ebrill 23:59

Gwybodaeth Her Natur y Ddinas - Caerdydd a Chasnewydd


Ymunwch â Chaerdydd a Chasnewydd i ddathlu 10fed pen-blwydd Her Natur y Ddinas!

Mae'r hyn a ddechreuodd yn 2016 fel cystadleuaeth gyfeillgar rhwng Los Angeles a San Francisco bellach wedi tyfu i fod yn ddathliad byd-eang o natur. Mae Her Natur y Ddinas wedi dod yn ddigwyddiad rhyngwladol, yn ysbrydoli pobl ledled y byd i archwilio a chofnodi bywyd gwyllt yn eu dinasoedd eu hunain.

Gallwch chi fod yn Rhan o Genhadaeth Bywyd Gwyllt Fyd-eang:
Eleni, gallwch ymuno â thrigolion o dros 650 o ddinasoedd ar hyd a lled y saith cyfandir ar genhadaeth gyffrous i ddogfennu bywyd gwyllt! Am bedwar diwrnod, rydym yn gofyn i chi gofnodi cynifer o arsylwadau natur ag y gallwch drwy ddefnyddio'r ap iNaturalist am ddim, gan helpu i gyfrannu at gofnodion bywyd gwyllt yng Nghaerdydd a Chasnewydd a hefyd ledled y byd.

Pam Ddylech chi Gymryd Rhan?
Dim ond y bywyd gwyllt rydyn ni’n gwybod amdano y gallwn ddiogelu! Drwy gymryd rhan yn Her Natur y Ddinas, byddwch yn cael dealltwriaeth ddyfnach o'r bywyd gwyllt sydd o'ch cwmpas a gallai eich arsylwadau helpu i warchod natur leol a helpu ymdrechion cadwraeth yn lleol ac yn fyd-eang.

Sut mae Cymryd Rhan?
Mae’n hawdd cymryd rhan! Lawrlwythwch ap iNaturalist am ddim i'ch ffôn clyfar neu lechen, ac uwchlwytho lluniau o'r bywyd gwyllt y dewch ar ei draws. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr bywyd gwyllt – bydd iNaturalist yn eich cynorthwyo i adnabod a chofnodi'r rhywogaethau a welwch. Hefyd, bydd cymuned o wyddonwyr a naturiaethwyr brwd yn helpu i wirio'r hyn rydych yn ei weld.

25-28 Ebrill - Arsylwi a chofnodi natur leol
29 Ebrill - 5 Mai - Helpu i wirio'r hyn a welwyd

Gallwch gymryd rhan yn yr her drwy gofnodi arsylwadau yn eich gardd eich hun, mewn man gwyrdd lleol neu drwy ymuno ag un o'r digwyddiadau gaiff eu trefnu yn eich ardal chi (bydd angen cadw lle)

Gwefan https://www.inaturalist.org/projects/city-nature-challenge-2025-cardiff-newport

Archebu digwyddiad

Mwy Am ddim Digwyddiadau

Dydd Llun 31st Mawrth 10:00 -
Dydd Llun 28th Ebrill 10:00

Dydd Llun 7th Ebrill 10:00 -
Dydd Llun 5th Mai 10:00