
Llanarth Court, East Dock Road, Newport, NP20 2FX
Gwybodaeth Noson LED Circus of Positivity
Ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, bydd CBC Circus of Positivity yn cynnal eu Noson LED flynyddol gydag Octopus Lounge, Casnewydd. Mae'r digwyddiad noson tân gwyllt amgen hwn ar gyfer y rhai sy'n cael trafferth gyda dathliadau noson tân gwyllt arferol, er enghraifft oherwydd gorbryder neu sensitifrwydd i synau uchel, ac maent yn chwilio am ddewis arall mwy hamddenol.
O 5.30pm tan 8pm, bydd gwirfoddolwyr Circus of Positivity yn arddangos sgiliau syrcas, fel jyglo, poi a chylch hwla, gyda'u cyfarpar LED y tu allan i'r bistro a’r parlwr pwdin. Y tu mewn, bydd tîm yr Octopus Lounge yn gweini amrywiaeth o ddanteithion ar thema noson tân gwyllt, ochr yn ochr â'u bwydlen arferol.
Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae gan y cwmni buddiannau cymunedol ystod o offer newydd ar gyfer y digwyddiad eleni, a fydd hefyd yn fwy strwythuredig na blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys amserlen o arddangosiadau a ailadroddir drwy gydol y noson – felly os byddwch yn colli'ch hoff sgil pan fyddwch yn mwynhau bwyd blasus y tu mewn, byddwch yn gallu ei weld eto y tro nesaf.
Gwefan https://fb.me/e/2wa9sXxJn
Mwy Lles Digwyddiadau
Lles
9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Iau 27th Chwefror 18:00 - 19:00
Lles
The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Sadwrn 1st Mawrth 11:00 - 12:00