The Riverfront, Kingsway, Newport, Gwent, NP201HG
Gwybodaeth Gweithdy Cymunedol Syrcas Positifrwydd
Mae'r gweithdai hyn yng Nglan yr Afon, Casnewydd, yn cynnig cyfleoedd i ddysgu amrywiaeth o sgiliau syrcas ar y tir, fel jyglo, poi, diablo, hwla a ffon flodau. Mae'r sesiynau'n addas ar gyfer dechreuwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad o gwbl neu sydd ag ychydig o brofiad o sgiliau syrcas.
Mae'r gweithdai’n agored i'r gymuned gyfan - mae croeso i bawb! Rhaid i unrhyw un dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn... Beth am gadw lle i’ch hun? Mae ein sesiynau yn wych ar gyfer teuluoedd!
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim diolch i arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddwn yn cynnig pedwar gweithdy fel rhan o'n cyfres y gwanwyn - mae croeso i chi ddod i bob gweithdy i ddatblygu eich sgiliau, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle ym mhob sesiwn. Os nad fyddwch yn gallu dod i un o'r sesiynau rydych wedi'u harchebu, rhowch wybod i ni fel y gallwn gynnig y lle i rywun arall.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gweithdai, cysylltwch â circusofpositivity@gmail.com