The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Gwener 3rd Hydref 19:30
Gwybodaeth BRONWEN LEWIS FINDING ME
Tocynnau yn y pedair rhes flaen - £41, pob sedd arall - £35
Mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd i'r llwyfan i ddathlu rhyddhau ei halbwm newydd hirddisgwyliedig 'Finding Me'
Mae'r gantores-gyfansoddwraig o Gymru, y mae ei steil yn crwydro rhwng Gwlad, Pop, Gwerin a Blues, yn ddwyieithog falch a derbyniodd glod rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice, pan ddaeth â dagrau i lygaid Tom Jones. Fel seren sy’n codi’n y ffurfafen mae hynny’n golygu bod Bronwen bellach yn eistedd ar un o'r cadeiriau coch enwog fel beirniad ar Y Llais, sef fersiwn Gymraeg o The Voice.
Mae wedi cymryd tair blynedd o gariad a gofal i greu ail albwm Bronwen 'Finding Me'. Bydd Bronwen yn perfformio caneuon o'i halbwm newydd am y tro cyntaf ynghyd â ffefrynnau ei chefnogwyr a fersiynau poblogaidd o glasuron traddodiadol Cymreig wedi'u cyflwyno yn arddull ddihafal Bronwen ei hun gyda straeon doniol yn plethu drwy’r cyfan!
Syfrdanwyd cynulleidfaoedd lwcus ar daith ddiweddar Bronwen 'Big Night In' gan gynnwys yn Arena Abertawe a WERTHODD ALLAN, ei sioe fwyaf hyd yn hyn. Peidiwch â cholli allan felly ar y gyfres gyfyngedig hon o sioeau agos atoch gyda Bronwen Lewis, archebwch docynnau nawr i osgoi cael eich siomi!
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 26th Mawrth 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Riverside Sports Bar, Clarence Place, Newport, NP19 7AB
Dydd Gwener 16th Mai 18:00 - 20:00