Hanes

Pont i'r Môr - Taith Gerdded Morwyr Casnewydd (Croeso i Gŵn)

1/1

Mission to Seafarers , Alexandra Docks, Newport, Gwent, NP20 2NP

Dydd Sadwrn 27th Ebrill 10:00 - 15:00

Gwybodaeth Pont i'r Môr - Taith Gerdded Morwyr Casnewydd (Croeso i Gŵn)

Mae croeso i gŵn ar ein Taith Gerdded Morwyr ddiweddaraf, felly ymunwch â ni i ddathlu arwyr ac arwresau Morwrol Casnewydd gyda theithwyr cudd yr Antarctig, achubwyr arwrol, menywod arloesol a thorpidos digyfeiriad hyd yn oed - darganfyddwch eu hanesion!

Yng nghwmni'r hanesydd a'r awdur lleol Andrew Hemmings, byddwch yn ymuno â Thîm Pont Gludo Casnewydd ar ein taith boblogaidd yn archwilio Casnewydd o amgylch y Bont, gan ddatgelu hanesion rhyfeddol 13 o bobl allweddol a digwyddiadau diddorol...

Gan ddilyn ôl troed canrif o forwyr di-ri, byddwn yn cychwyn ar ein taith ddarganfod yn y Genhadaeth i Forwyr yn Nociau Casnewydd, lle gallwch fwynhau’r ffilm 'Newport and the Sea 1914-1918' cyn mentro ar daith gylchol 5 milltir gan ymweld â chwe lleoliad.

Bydd cyfle hefyd i brynu copïau o lyfr Andrew: 'Secret Newport' - anrheg ddelfrydol.

Os ydych chi'n bwriadu dod â chi gyda chi, cysylltwch â ni'n uniongyrchol: Gavin.Jones@newport.gov.uk

Rydym yn awgrymu parcio ym maes parcio Mill Parade neu’r cyffiniau.

Gwefan https://www.eventbrite.co.uk/e/bridge-to-the-sea-newport-seafarers-dog-friendlywalking-tour-tickets-883168539877

Archebu digwyddiad

Mwy Hanes Digwyddiadau

Newport Castle , Newport , Gwent , NP20 1DA

Dydd Sadwrn 8th Mehefin 11:00 - 15:15

, Unit 20, Estuary Road, Newport, NP19 4SP

Dydd Sadwrn 27th Gorffennaf 10:00 - 16:00