The Riverfront Theatre and Arts Centre, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Gwybodaeth Gŵyl y Sblash Mawr
Mae'n bleser gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyhoeddi y bydd Gŵyl y Sblash Mawr yn dychwelyd Ddydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Gorffennaf 2024, gan drawsnewid canol dinas Casnewydd yn ganolbwynt llawn bywyd, creadigrwydd a dathlu.
Mae Gŵyl y Sblash Mawr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i’r ddinas, ac mae’n cael ei chydnabod fel yr ŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf yng Nghymru, gyda cherddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, gweithgareddau a chrefft i'r teulu cyfan.
Gyda phopeth am ddim, mae'r digwyddiad deuddydd yn brofiad teuluol perffaith i bawb o bob oed. Dyma'r dechrau gorau posib i wyliau'r haf!
Dewch i ganu, dawnsio, chwerthin, creu a chael eich diddanu yng ngŵyl Sblash Mawr 2024.
Gwefan https://www.newportlive.co.uk/en/theatre-arts/festivals-events/big-splash/