Teulu

Gwylio Adar yr Ardd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Newport, Newport, NP18 2BZ

Gwybodaeth Gwylio Adar yr Ardd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cychwynnwch eich ymgyrch Gwylio Adar yr Ardd drwy ymuno â ni ar daith gerdded dywysedig lle gallwch fireinio eich gwybodaeth am adar yr ardd a’r coetir gyda'n cyflwyniad i adara. Byddwn yn eich tywys trwy egwyddorion adnabod adar, yn rhannu awgrymiadau ar sut i ddenu adar yr ardd a beth i'w bwydo a'r lleoliadau gorau i weld adar pan fyddwch chi allan. Gan ddechrau yn ein banc bwydo, bydd eich tywysydd yn eich cyflwyno’n raddol i’ch profiad gwylio adar. Pan fyddwch yn teimlo'n hyderus gyda'r pethau sylfaenol, byddwch yn archwilio rhannau eraill o'r warchodfa lle byddwch yn gweld adar tymhorol yr ydych yn llai tebygol o'u gweld yn yr ardd gefn. Ar hyd y ffordd heriwch eich profiad adara drwy oedi ar yr arfordir i brofi math gwahanol o wylio adar.

Cofiwch ymuno ag ymgyrch Gwylio Adar yr Ardd y RSPB ar 26 - 28 Ionawr 2024. Mae'n ffordd wych o dreulio awr gyda natur, yn ymlacio heb feddwl am unrhyw bryderon ac yn cyfri’r adar yn eich gerddi eich hun, ar falconïau, mewn parciau lleol neu hyd yn oed y tu allan i'ch ffenestr. Beth welwch chi?

Gwefan https://events.rspb.org.uk/newportwetlands

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Teulu Digwyddiadau

Caerleon Roman Fortress Baths, High Street, Newport, NP18 1AE

Dydd Sadwrn 22nd Chwefror 10:00 -
Dydd Sul 2nd Mawrth 16:00

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd, NP20 1PA

Dydd Mawrth 25th Chwefror 11:00 - 12:30