
LLyfrgell Maindee Library +, 79 Chepstow Road, Newport, NP19 8BY
Gwybodaeth 'Beyond the Seawall' Sgwrs gyda’r Nos Ed Drewitt - Llyfrgell Maindee
Ddwywaith y dydd, wrth i'r llanw fynd ar drai, mae dyfroedd mwdlyd Aber Hafren yn draenio i ffwrdd i ddatgelu tua 100 km sgwâr o dir rhynglanwol, mosaig cymhleth o forfeydd heli, fflatiau mwd, glannau tywod, a blaendraeth creigiog.
Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae rhai ohonynt i'w gweld yn unman arall. Mae llawer ohonynt wedi'u haddasu'n arbennig i fyw yn y parth rhynglanwol llym, gyda'i dymereddau a'i halltrwydd yn amrywio'n eang. Gyda'i gilydd maent yn creu ecosystem mor gyfoethog ac amrywiol ag unrhyw goedwig law drofannol.
Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Cyflwyniad i dirwedd, hanes, ac amgylchedd Aber Hafren a Gwastadeddau ehangach Gwent
- Adnabod y parth rhynglanwol, cynefinoedd allweddol a rhywogaethau
- Cyflwyniad i arolygu a chofnodi bywyd gwyllt
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM yn Llyfrgell Maendy i hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gynefinoedd rhynglanwol ac i annog cofnodi rhywogaethau ar draws Gwastadeddau Gwent. Mae cofnodi rhywogaethau yn ffordd amhrisiadwy o ddeall effeithiau gweithgarwch dynol ar y byd naturiol.
Lluniaeth ar gael!
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Am ddim Digwyddiadau
Am ddim
Llyfrgell Tŷ Du , Tregwilym Road, Rogerstone, Newport, NP10 9EL
Dydd Mawrth 8th Gorffennaf 14:00 - 14:45
Am ddim
The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Mawrth 8th Gorffennaf 16:00 - 18:00