Cerddoriaeth

Benefits

Le Pub, 14 High Street, Newport county , Newport, NP20 1FW

Gwybodaeth Benefits

Mae'r Benefits yn dod i Gasnewydd!!

Yn eu pedair blynedd o fodolaeth, mae llawer wedi newid i’r cynhyrfwyr o lannau’r Tees. Dros y cyfnod clo, fe wnaethant droi o fyd pync ysbrydoledig dan arweiniad gitâr yn waldwyr sŵn llym a chras, y gwnaeth eu cerddoriaeth danllyd, ddeniadol, ennyn y math o ddilyniant a dyfodd yn naturiol - twf na all y rhan fwyaf o artistiaid ond breuddwydio amdano.

Bob tro y byddai un ganeuon polemig newydd y band yn glanio, byddai'n lledaenu'n gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol fel gwrthwenwyn i'r haint hwnnw ac yn casglu mwy o gefnogwyr at achos y Benefits. Roedd cefnogwyr proffil uchel fel Steve Albini, Sleaford Mods a Modeselektor ymhlith y rhai oedd ar fwrdd y llong o'r dechrau’n deg. Gyda sylw effeithiol gan bobl fel NME, The Quietus, Loud & Quiet a'r Guardian a dilynodd mwy yn fuan. Trwy'r cyfan, arhosodd y band yn gadarn annibynnol, gan weithredu'n gyfan gwbl heb label, tîm y wasg na ffafrau gan y diwydiant.

Nawr, fodd bynnag, maen nhw'n codi i’r lefel nesaf, ar ôl arwyddo i’r label indie Invada uchel ei barch a ryddhaodd eu halbwm cyntaf 'NAILS' ar 21 Ebrill 2023. Roedd cyd-sylfaenydd y label, Geoff Barrow o Portishead, yn un o'r nifer a gafodd eu denu i'r gerddoriaeth wrth iddi greu cynnwrf ar-lein, a phan ddaeth i weld y grŵp yn perfformio'n fyw yn ei gartref ym Mryste roedd wedi gwirioni ar unwaith.

Rydyn ni wrth ein bodd yn sicrhau’r band hwn; mae tocynnau ar werth nawr!

Gwefan https://www.lepublicspace.co.uk/shows

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau

Call the Choir

Cerddoriaeth

Newport

Dydd Mercher 26th Tachwedd 13:47 -
Dydd Llun 8th Rhagfyr 13:47

Holiday Inn Newport, The Coldra, Newport, NP18 2YG

Dydd Gwener 5th Rhagfyr 7:15 -
Dydd Sadwrn 6th Rhagfyr 1:00