Cerddoriaeth

Cyngerdd BBC NOW: Anturiaethau Americanaidd

1/1

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Gwener 3rd Mai 19:30 - 21:30

Gwybodaeth Cyngerdd BBC NOW: Anturiaethau Americanaidd

Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nglan yr Afon am 7:30pm ar 3 Mai i ddathlu cerddoriaeth glasurol Americanaidd gyda'u Prif Arweinydd, a aned yn Los Angeles, Ryan Bancroft.

Yn boblogaidd ledled y byd, mae Adagio Barber ar gyfer y Llinynnau’n un o'r darnau amlycaf y repertoire cerddorfaol a’i waith mwyaf adnabyddus. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffilmiau a rhaglenni teledu, a chafodd ei berfformio yn angladd Roosevelt ac yn dilyn llofruddiaeth JFK - gan ei wneud yn ddarn cyfarwydd i lawer.

Mae ei goncerto i’r ffidil yn llai adnabyddus, ond mae’r un mor drawiadol. Wedi'i gyfansoddi yn y 1930au pan oedd digyweiredd yn denu sylw, roedd cryn groeso i alaw, rhythm, harmoni a chyfansoddiad traddodiadol cerddoriaeth Barber. Mae themâu eang, a thywyll ar adegau, yn dominyddu, gydag ambell gyffyrddiad o seiniau dwyreiniol, gwerin a cherddoriaeth Rwsiaidd; mae trawsacennu a gwrth-rythmau amlwg yn gyrru naratif cyffrous a medrus drwyddi draw. I berfformio'r rôl unigol bydd BBC NOW yn croesawu'r feiolinydd carismatig, Ben Baker.

Bydd y gerddorfa hefyd yn perfformio cerddoriaeth Charles Ives a’i Ail Symffoni, dan arweiniad Ryan Bancroft. Yn enwog am ddyfynnu alawon Americanaidd adnabyddus, y symffoni hon yw ei waith mawr cyntaf i archwilio'r benthyca hwn yn llawn, wedi'i gyfuno â dylanwadau Ewropeaidd – cipolwg ar ei blentyndod a'i fywyd fel oedolyn yn dod at ei gilydd.

Gwefan https://www.bbc.co.uk/events/ez4bc8

Archebu digwyddiad

Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau

ICC Wales, The Coldra, Newport, Monmouthshire, NP18 1DE

Dydd Sadwrn 18th Mai 19:00 - 21:30

Diwedd a Dechrau

Cerddoriaeth

Newport Cathedral, Stow Hill, Newport, Newport, NP20 4EA

Dydd Sadwrn 18th Mai 19:30 - 21:30