Sgyrsiau

Taith Gerdded Gwylio Ystlumod y Nos yng Ngwlypdiroedd Casnewydd

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport , Newport, NP18 2BZ

Dydd Mawrth 1st Medi 18:45 - 21:15

Gwybodaeth Taith Gerdded Gwylio Ystlumod y Nos yng Ngwlypdiroedd Casnewydd


Ymunwch â ni yng Ngwlypdiroedd RSPB Casnewydd am noson hudolus gyda'r hwyr ac wrth i'r warchodfa ddod yn fyw gyda chyfle i weld byd cudd yr ystlumod. Dan arweiniad yr arbenigwr ystlumod Peter Wilton-Jones, bydd y noson yn dechrau gyda chyflwyniad hynod ddiddorol am y creaduriaid rhyfeddol hyn sy'n dod i’r golwg gyda'r nos - eu hymddygiad, eu cynefinoedd a’r rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae yn ein hecosystem.

Wrth iddi nosi, byddwn yn dechrau ar daith drwy'r warchodfa, gyda synwyryddion ystlumod yn tiwnio i'r galwadau wltrasonig fydd yn adleisio uwchben. Mae'r digwyddiad ymarferol hwn yn cynnig cyfle prin i weld ystlumod yn eu hamgylchedd naturiol a darganfod cyfrinachau'r nos.

Perffaith i’r rheini ohonoch o bob oed, sy'n hoff o fyd natur, ond cofiwch, rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Ymunwch a ni am noson hudolus o fywyd gwyllt, darganfyddiad, a gwefr yr anweledig.

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Dewch â thortsh, mae tortsh pen gyda golau coch yn well gan nad yw’n amharu cymaint ar fywyd gwyllt. Gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a'r tymheredd, gan gynnwys esgidiau cadarn. Mae'n bosib y byddwn yn treulio tipyn o amser yn sefyllian felly gwisgwch haenau cynnes gan y gall y warchodfa fod yn oer iawn. Dewch â dillad addas ar gyfer tywydd gwlyb gyda chi hefyd. Mae rhwydd hyn i chi ddod â diod a/neu fyrbryd gyda chi hefyd.

A alla i ddod â fy nghi?

Yn anffodus, ni allwn ganiatâd cŵn, heblaw cŵn cymorth.

Sut alla i gysylltu â'r trefnydd os oes gennych gwestiwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, e-bostiwch Newport-Wetlands@rspb.org.uk.



Gwefan https://events.rspb.org.uk/events/161256

Archebu digwyddiad

Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Iau 10th Medi 19:30

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ

Dydd Iau 17th Medi 18:00 - 20:30