Teulu

Taith gerdded ystlumod yng Ngwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB - I Deuluoedd

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Newport, NP18 2BZ

Gwybodaeth Taith gerdded ystlumod yng Ngwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB - I Deuluoedd


Wrth iddi ddechrau nosi, ymunwch â ni am dro drwy'r warchodfa wrth i greaduriaid gwych y nos wneud eu hymddangosiad. Bydd Peter Wilton-Jones yn ymuno â ni ar y noson, lle bydd yn dechrau gyda chyflwyniad i fyd ystlumod, cyn mynd allan, gyda’n synwyryddion ystlumod yn ein llaw, i weld beth y gallwn ddod o hyd iddo.

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer teuluoedd, mae gennym ddigwyddiad arall i oedolion yn unig ar 11 Hydref. Bydd y digwyddiad yn para tua 2 awr. Mae’n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Beth arall sydd i'w wneud yng Ngwlyptiroedd Casnewydd? Mae ein siop ar agor rhwng 10am a 4.30pm ac mae'r caffi ar agor rhwng 10am a 4pm. Gallwch logi binocwlars o'n siop a chael gostyngiad oddi ar bris pâr newydd sbon, os ydych chi'n prynu'r un diwrnod. Mae gennym faes parcio sydd am ddim i aelodau'r RSPB ac sy’n costio £4 y car am y dydd, i bobl nad ydynt yn aelodau.

A oes rhaid i mi ddod â thocyn wedi ei argraffu i’r digwyddiad? Dewch â phrawf print neu electronig o'ch tocyn. Os gwnaethoch chi archebu lle fel aelod o'r RSPB, mae angen i'r aelod hwnnw ddod â'i gerdyn aelodaeth gydag ef.

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi? Dewch â thortsh, tortsh pen gyda golau coch sydd orau, er mwyn peidio â tharfu ar y bywyd gwyllt. Gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a'r amodau, gan gynnwys esgidiau cadarn. Bydd disgwyl i chi sefyllian am ychydig, felly gwisgwch mewn haenau cynnes, gan y gall fod yn oer iawn allan ar y warchodfa. Dylid dod ag offer tywydd gwlyb rhag ofn. Efallai y byddwch am ddod â diod a/neu fyrbryd.

A allaf ddod â'm ci? Dim cŵn, ac eithrio cŵn cymorth.

Sut alla i gysylltu â'r trefnydd gydag unrhyw gwestiynau? Os oes gennych unrhyw gwestiynau heb eu hateb, anfonwch e-bost atom yn Newport-Wetlands@rspb.org.uk.

Beth yw'r polisi ad-dalu? Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn peri i Wlyptiroedd Casnewydd yr RSPB ganslo digwyddiad, bydd pob deiliad tocyn yn cael gwybod, a rhoddir ad-daliad llawn.

Gwefan https://events.rspb.org.uk/events/87165

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Teulu Digwyddiadau

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Newport, NP18 2BZ

Dydd Mercher 6th Tachwedd 14:30 -
Dydd Sul 22nd Rhagfyr 16:30

Newport City Centre

Dydd Iau 14th Tachwedd 0:01 -
Dydd Sul 5th Ionawr 23:59