RIVERFRONT THEATRE, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Gwybodaeth BALLET CYMRU YN CYFLWYNO RHAGLEN DRIPHLYG O DDAWNS NEWYDD
Bydd Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, ac Artist Cyswllt Ballet Cymru, Marcus J Willis, yn cyflwyno perfformiad cyntaf o waith newydd rhagorol a grëwyd yn arbennig ar gyfer dawnswyr eithriadol Ballet Cymru.
MOMENTUM: Mae Momentum yn cipio coreograffydd, dawnswyr a chwmni ar eu hanterth.
SURGE: Mae Marc Brew yn goreograffydd o fri rhyngwladol ac yn Artist Cyswllt arall i Ballet Cymru. Bydd Marc yn gweithio yng Nghymru i greu gwaith newydd hyfryd, SURGE, a fydd yn archwilio sut y gallwn gipio symudiad tonnau i greu egni newydd.
Am y drydedd flwyddyn, mae Ballet Cymru yn falch iawn o groesawu'r dawnswyr ifanc o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru www.ccic.org.uk a fydd yn dangos perfformiad cyntaf o waith newydd gan y coreograffydd arobryn Yukiko Masui.
Mae Ballet Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cyfranogwyr y rhaglen BALLET CYMRU BOYS a lansiwyd yn ddiweddar yn perfformio i godi'r llen ar ddechrau perfformiadau'r noson.
Pryd: 7.30pm, dydd Iau 31 Hydref a dydd Gwener 1 Tachwedd 2024
Ble: Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
I archebu tocynnau, ewch i'r calendr, neu cysylltwch â swyddfa docynnau Theatr Glan yr Afon
https://newportlive.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173650657
riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk
01633 656 757
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Mawrth 3rd Rhagfyr 9:30 -
Dydd Sadwrn 11th Ionawr 16:00
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Sadwrn 7th Rhagfyr 9:30 -
Dydd Sadwrn 18th Ionawr 16:00