, Unit 1, Wern Trading Estate, Rogerstone, Newport, NP10 9FQ
Gwybodaeth Ballet Cymru yn Codi Arian dros gyfnod y Nadolig
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu pen-blwydd Ballet Cymru yn 10 oed yn y stiwdios, a lansio ymgyrch codi arian i greu lleoliad diwylliannol newydd yng Nghasnewydd.
Yr Hyn i’w Ddisgwyl:
• Rhannu unigryw gan ddawnswyr cwmni Ballet Cymru
• Darnau o waith newydd cyffrous gan ddawnswyr ar Raglen Cyn-Broffesiynol Ballet Cymru
• Dawns Nadoligaidd gan grŵp ieuenctid cynhwysol Ballet Cymru, Ballet Cymru 3
• Cyfle i gwrdd â'r dawnswyr a thîm y cwmni
• Lluniaeth Nadoligaidd am ddim
Croeso i bawb o bob oed!
Sefydlodd Ballet Cymru ei gartref presennol ar Ystâd Fasnachu'r Wern, Tŷ-du, yn 2015 fel canolfan ar gyfer ymarferion a rhaglenni hyfforddi. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a diolch i geisiadau cyllid cyfalaf llwyddiannus, mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi arwain at ddwy stiwdio ddawns bwrpasol eang, cyfleusterau swyddfa a storfa bwrpasol - gan gynnwys lle ar gyfer y casgliad rhyfeddol o wisgoedd hardd a grëwyd yn ystod 44 o flynyddoedd yr elusen.
Nawr, rydyn ni'n barod ar gyfer y cam nesaf – i'n llwyfan ein hunain.
Ein gweledigaeth yw agor ein hadeilad i'r gymuned fel lleoliad diwylliannol pwrpasol ar gyfer perfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau creadigol.
Mae’r gweithgareddau Codi Arian dros y Nadolig eleni yn nodi lansiad swyddogol yr ymgyrch i wireddu'r weledigaeth hon, wrth i Ballet Cymru barhau â'r daith unigryw i ddod yn gwmni bale cenedlaethol i Gymru.
Mae stiwdios Ballet Cymru yn gwbl hygyrch, a bydd lluniaeth am ddim yn cael ei gynnig wrth gyrraedd. Cysylltwch os oes gennych ofynion dietegol arbennig neu anghenion mynediad. Mae parcio am ddim gerllaw ac mae'r stiwdios wedi'u lleoli ger llwybrau bws Casnewydd.
Gwefan https://ballet.cymru/company_news_1/ballet-cymru-festive-fundraiser-2025/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport market, High St, Newport, NP20 1FX
Dydd Sadwrn 17th Ionawr 12:00 - 15:00
Y Celfyddydau
Newport Market, High St, Newport , NP20 1FX
Dydd Iau 19th Chwefror 17:45 - 21:00