Market Arcade , High Street, Newport, Newport, NP20 1FS
Gwybodaeth Gweithdai Gwehyddu Basgedi Hanner Tymor yr Hydref gyda Sarah Hatton
Yn Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, un o'r arddangosfeydd mwy anarferol yw un o'r basgedi mawr a ddefnyddiwyd gan weithwyr, flynyddoedd lawer yn ôl, i osod, paentio a chynnal crograffau Pont Gludo Casnewydd ac i ddringo ein tyrau 74 metr!
Mae’r gwehydd helyg Sarah Hatton, sy’n wyneb cyfarwydd o'r rhaglen deledu, 'The Repair Shop', wedi cael y dasg o efelychu nodweddion eiconig ac anarferol y bont i'w rhoi ar waith yn ein gardd East Anchorage yn y pen draw. Ymunwch â hi a thîm Prosiect Pont Gludo Casnewydd yn Arcêd y Farchnad hanesyddol, am sesiwn awr o hyd o wehydda helyg i'r teulu, gan wneud eich basged fach eich hun a darganfod mwy am 'Fasgedi Enfawr' anhygoel y Bont yr hanner tymor mis Hydref hwn!
SYLWER: MAE ARCHEBION FESUL PLENTYN - ond mae'n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer y gweithgaredd ymarferol hwn.
Er bod hwn yn ddigwyddiad am ddim, mae costau ac amser yn berthnasol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu bod yn bresennol pan fyddwch yn archebu.
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, rhowch ddigon o rybudd i ni!
Mwy Y Celfyddydau Digwyddiadau
Y Celfyddydau
Newport Museum and Art Gallery, Central Library, 4 John Frost Square, Kingsway Centre, Newport
Dydd Gwener 13th Chwefror 15:11 -
Dydd Sadwrn 18th Ebrill 15:11
Y Celfyddydau
, 9 Chartist Tower, Upper Dock Street, Newport, NP20 1DX
Dydd Gwener 3rd Ebrill 18:00 -
Dydd Sadwrn 25th Ebrill 17:00