
Newport Rising Hub , 170 Commercial Street, Newport, NP20 1JN
Gwybodaeth Andrew Hurley - Gŵyl y Geiriau Casnewydd
Mae meistr arswyd gwerin Lloegr yn ymuno â ni i drafod ei lyfr newydd iasol ac atmosfferig. Mae Barrowbeck gan Andrew Michael Hurley yn dechrau wrth i grŵp o bobl y gors gael eu gorfodi o'u cartrefi a dod o hyd i le newydd i fyw, ac yn gorffen mewn ardal o lifogydd yn y dyfodol agos lle mae bodau dynol a'r drychineb hinsawdd wedi difetha'r blaned.
Mae Andrew Michael Hurley yn nofelydd penigamp ac uchel ei glod sy'n byw yn Swydd Gaerhirfryn. Enillodd The Loney wobr Nofel Gyntaf Orau Costa a gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain. Enillodd Devil’s Day y Wobr Encore. Rhyddhawyd Starve Acre fel ffilm gyda Matt Smith a Morfydd Clark yn hydref 2024.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl y Geiriau Casnewydd a gynhelir 20-23 Mawrth. Dathliad o eiriau; o gyfansoddi caneuon i adrodd straeon, o farddoniaeth i ryddiaith, ac yn cynnwys awduron a pherfformwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Mawrth 1st Ebrill 10:00 -
Dydd Mercher 31st Rhagfyr 15:00
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sul 4th Mai 5:00 - 7:30