Theatr

An Evening Of Burlesque

1/1

ICC Wales, The Coldra, Newport, NP18 1DE

Dydd Sadwrn 25th Mai 19:00

Gwybodaeth An Evening Of Burlesque

Dewch yn llu. . . mae noson wefreiddiol o adloniant ysblennydd - sioe bwrlésg sydd wedi bod yn rhedeg hiraf yn y DU - yn dychwelyd ac yn teithio o gwmpas y wlad. Ac, mae’n fwy nag erioed!
Ymunwch â ni ar gyfer y noson allan dda, hen ffasiwn, wrth i ni ddod â'r sioe amrywiol orau i chi, gan gyfuno cabaret steilus, comedi, cerddoriaeth, syrcas a bwrlésg i oleuo'ch synhwyrau i gyd.
Gyda diddanwyr o safon fyd-eang a sêr y llwyfan a'r sgrîn – paratowch ar gyfer strafagansa o sbloets a sbri! Gallwch disgwyl hwyl, plu a gwisgoedd gwych wrth i ni ddewis o'r detholiad gorau o artistiaid arbenigol, sêr y byd cabaret a syrcas, comedïwyr a sioeferched siampên! Mae'n noson berffaith i bawb.
Mae An Evening of Burlesque yn llawn o berfformiadau artistig sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ers canrifoedd. Mae'r sioe amrywiol syfrdanol hon yn dwyn ynghyd amrywiaeth o sêr trawiadol ar gyfer sioe amrywiol heb ei hail ar gyfer yr 21ain ganrif! Cewch brofi rhywbeth annisgwyl gyda digon o befr a glamor!

Gwefan https://www.iccwales.com/whats-on/an-evening-of-burlesque/

Archebu digwyddiad

Mwy Theatr Digwyddiadau

Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Mercher 15th Mai 19:30 - 21:00

ICC Wales, The Coldra, Newport, NP18 1DE

Dydd Gwener 24th Mai 20:00 - 21:30