Chwaraeon

Gŵyl Marathon ABP Casnewydd

Gwybodaeth Gŵyl Marathon ABP Casnewydd


Bydd Gŵyl Marathon ABP Casnewydd yn dychwelyd ar gyfer 2026 ar ddydd Sul 19 Ebrill, gan gynnig gŵyl wefreiddiol o redeg gydag opsiynau marathon, hanner marathon, ras 10K a ras filltir.

Mae'r ras boblogaidd yn ffefryn ar galendr rhedeg Cymru, ac mae ganddi un o'r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae bron i 70% o'r holl bobl sy’n gorffen y ras wedi sicrhau eu hamser gorau ar lwybr sy'n cynnig tirnodau eiconig, gan gynnwys castell hanesyddol y ddinas, y Farchnad Fictoraidd draddodiadol, y Bont Gludo, datblygiad modern ar lan yr afon a'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae rasys marathon a hanner marathon hefyd yn cynnwys golygfeydd godidog Gwastadeddau Gwent — gyda'i fywyd gwyllt arfordirol a phentrefi canoloesol hardd.

Gallwch ddisgwyl digwyddiad trefnus gydag awyrgylch gwych a chroeso cynnes Cymreig i gyfranogwyr a gwylwyr ill dau.

Gwefan https://newportwalesmarathon.co.uk/

Mwy Chwaraeon Digwyddiadau

Tony Jarrett

Chwaraeon

Belle Vue Park, Friars Road, Newport, NP20 4EZ

Dydd Llun 22nd Mehefin 17:30 -
Dydd Llun 25th Mai 17:30

Tony Jarrett

Chwaraeon

Belle Vue Park, Friars Road, Newport, NP20 4EZ

Dydd Llun 29th Mehefin 17:30 -
Dydd Llun 1st Mehefin 17:30